Heia!
'Sneb braidd yn anfon carden at ward iechyd meddwl, felly mi ddaethom ni gyda'n gilydd fel grwp o ferched o Eglwys Ffynnon, Llandysul, i newid hynny.
Ni am rhannu cariad gyda merched sy'n mynd trwy gyfnod tywyll ac unig ar Ward Iechyd Meddwl. Gwnaethom ni weithio gyda'r artist, Lois Adams, i greu cardiau llawn cariad a gobaith i'r merched.
Mae'r bagiau gobaith yn cynnwys pethau bach cariadus fel sanau fflwffi, eli croen, lip balm, siocled, brwsh gwallt a llyfr nodiadau. Pethau sydd angen ar ferched pan maent yn cyrraedd y ward.
Ein bwriad yw eu bod nhw'n teimlo yn llai unig, a'u bod yn gwybod ein bod yn meddwl amdanynt.
A hefyd yn rhannu'r gobaith fod yna fywyd yn aros amdanynt ar ol bod yn yr Ysbyty.
Y Bagiau
Gwaith Celf
Creu Cardiau
1 Siwmper = 1 Bag
Mae hefyd modd cefnogi'r elusen drwy brynu siwmper. Mae pob un sy'n gwisgo siwmper yn helpu chwalu'r stigma o gwmpas gofal iechyd meddwl dwys.
Mae'r elw o bob siwmper yn talu am un bag gofal i ferch.